#

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Medi 2016

Petitions Committee | 13 September 2016

 

 

 

Cyfyngu ar nifer y tymhorau y caiff cynghorwyr lleol wasanaethu

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-706

Teitl y ddeiseb: Sicrhau bod ein Cynghorau yn cael eu Hadfywio drwy Gyflwyno Tymor Sefydlog

Testun y ddeiseb: ​Rwy’n cynnig er mwyn sicrhau bod ein cynghorau a’n cymunedau yn parhau i symud ymlaen, bod aelodau etholedig o’r cabinet a’r cyngor yn cael parhau yn eu swyddi am uchafswm o 2 dymor (8 mlynedd) yn unig yn ein cynghorau lleol. Bydd hyn yn darparu cylch parhaus o gynrychiolwyr lleol fydd yn dod â syniadau a brwdfrydedd newydd i’n cymunedau. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i Gymru ddatblygu cenhedlaeth newydd o wleidyddion ifanc.

Cefndir

Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at gyflwyno 'tymor sefydlog' ar gyfer cynghorwyr lleol, a'r pwnc dan sylw yn y cyd-destun hwn yw'r syniad o gyfyngu ar nifer y tymhorau y cânt wasanaethu. Byddai cyfyngiad o'r fath yn pennu faint o dymhorau y câi cynghorydd lleol wasanaethu, ac yn ei atal, felly, rhag ymgeisio i gael ei ailethol ar ôl cyfnod penodedig. Gellid cyfyngu hefyd ar gyfnod gwasanaeth aelod o weithrediaeth Cyngor. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyfyngiadau mewn grym.

Yn wahanol i rai gwledydd, yn enwedig yr Unol Daleithiau, nid yw cyfyngiadau o'r fath yn nodwedd gyffredin o fywyd gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig.

Cynigwyd y dylai Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu wasanaethu am uchafswm o ddau dymor, ond dilëwyd y ddarpariaeth honno o'r ddeddfwriaeth cyn iddi ddod yn gyfraith.

Camau gan Lywodraeth Cymru

Gwnaed rhai cynigion ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru 2015, Diwygio Llywodraeth Leol: Grym i Bobl Leol i gyfyngu ar nifer y tymhorau y câi cynghorwyr lleol wasanaethu. Yr awgrym oedd uchafswm o bum tymor. Cynigwyd cyfyngiad o ddau dymor hefyd ar gyfer yr amser y câi aelod fod yn rhan o weithrediaeth unrhyw Gyngor

Roedd y Papur Gwyn yn cyfeirio at waith ymchwil a oedd yn awgrymu y gallai cyfyngiadau o'r fath arwain at grwpiau mwy amrywiol o ymgeiswyr mewn etholiadau. Fodd bynnag, cydnabu Llywodraeth Cymru hefyd nad oedd yr ymchwil yn dod i gasgliad pendant,  “a’r ddadl bennaf yw bod y blwch pleidleisio’n rhoi cyfle i etholwyr osod eu cyfyngiadau eu hunain ar nifer y tymhorau.”

Roedd y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn dangos bod rhywfaint o gefnogaeth i gyfyngu ar nifer y tymhorau y caiff cynghorwyr lleol wasanaethu, ond nad oedd fawr ddim consensws ynghylch faint o dymhorau y dylent gael gwasanaethu. Roedd cyfanswm o 21 o awdurdodau lleol, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn gwrthwynebu'r cynnig i gyfyngu ar nifer y tymhorau. Aeth y crynodeb ymlaen i nodi:

Ar gyfer yr holl gyfyngu ar dymhorau a awgrymwyd, roedd dwy brif ddadl wedi’u cyflwyno i gefnogi barn yr ymatebwyr. I ddechrau, awgrymwyd y dylai unrhyw newidiadau i’r cyfyngu ar dymhorau fod yn berthnasol i bob lefel o gynrychiolaeth wleidyddol ledled Cymru. Yn ail, dadleuwyd nad oedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn yn sail ddigonol ar gyfer gwneud newid o’r fath.

Ar 17 Mehefin 2015, cyhoeddodd y Gweinidog blaenorol mewn datganiad ysgrifenedig ei fod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r cynnig.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafododd Aelodau'r Pedwerydd Cynulliad y mater hwn yng nghyd-destun y cynigion a wnaed  gan Lywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad yn 2015. Yn benodol, holodd yr Aelodau pam y mae’r cynigion wedi'u cyfyngu i lywodraeth leol, ac a fyddent yn wir yn gwella amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.  Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.